Yr hawl i addysg

Yr hawl i addysg
Enghraifft o'r canlynolhawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Edit this on Wikidata
Mathhawliau dynol Edit this on Wikidata
Rhan ocyfraith ryngwladol Edit this on Wikidata
Mae indoctrination yn yr ystafell ddosbarth, ymgorffori cynnwys gwleidyddol yn y deunydd astudio neu athrawon sy'n cam-drin eu rôl i indoctrinate myfyrwyr yn mynd yn groes i amcanion addysg sy'n ceisio rhyddid meddwl a meddwl beirniadol.

Mae'r hawl i addysg wedi'i chydnabod fel hawl ddynol mewn nifer o gonfensiynau rhyngwladol, gan gynnwys y Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol. Mae'r Cyfamod hwn yn cydnabod hawl i addysg gynradd orfodol am ddim i bawb, rhwymedigaeth i ddatblygu addysg uwchradd sy'n hygyrch i bawb, am ddim yn ogystal â rhwymedigaeth i ddatblygu mynediad teg i addysg uwch, trwy gyflwyno addysg uwch am ddim yn raddol. Heddiw, mae bron i 75 miliwn o blant ledled y byd yn cael eu hatal rhag mynd i'r ysgol bob dydd.[1] Yn 2015, roedd 164 o wledydd wedi arwyddo'r Cyfamod.[2]

Mae'r hawl i addysg hefyd yn cynnwys cyfrifoldeb i ddarparu addysg sylfaenol i oedolion nad ydyn nhw wedi cwblhau addysg ar lefel ysgol a choleg. Yn ychwanegol at y darpariaethau mynediad hyn i addysg, mae'r hawl i addysg yn rhwymo'r myfyrwyr i osgoi gwahaniaethu (discrimination) ar bob lefel o'r system addysg, i osod isafswm o safon ac i wella ansawdd yr addysg.

  1. "What is HRBAP? | Human Rights-based Approach to Programming | UNICEF". UNICEF. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-02. Cyrchwyd 2016-09-28.
  2. "UN Treaty Collection: International Covenant on Economic, Social and Cultural Rights". UN. 3 Ionawr 1976. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2016.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne